Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 20 Mai 2015

 

Amser y cyfarfod:
13.30

 

 

 

 

Agenda

(267)v2

 

<AI1>

        Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

        Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

        Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (0 munud)

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.

</AI3>

<AI4>

        Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel (60 munud)

NDM5764 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Chwefror 2015.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI4>

<AI5>

        Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar helpu pobl ifanc i gael gwaith (60 munud)

NDM5763 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes

Ymateb Llywodraeth Cymru

</AI5>

<AI6>

        Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

NDM5765 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi nad yw Cyllid Cymru yn diwallu anghenion busnesau bach ledled Cymru a bod mynediad at gyllid yn parhau i fod yn broblem i lawer o fusnesau bach a chanolig;

2. Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc Datblygu i Gymru, fel y cydnabyddir yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan yr Athro Dylan Jones-Evans; a

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried rhinweddau'r cynigion a amlinellir yn 'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' a, lle y bo'n briodol, ystyried eu hymgorffori yn y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Mae'r adroddiad gan yr Athro Dylan Jones-Evans ar gael yn: http://gov.wales/topics/businessandeconomy/policy/access-to-finance/?lang=cy

Mae 'Gweledigaeth ar gyfer Buddsoddi yng Nghymru: Buddsoddi Cymru' ar gael yn:
http://www.welshconservatives.com/sites/www.welshconservatives.com/files/buddsoddi_cymru_final_0.pdf

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)

TYNNWYD YN ÔL

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 1, ar ôl 'diwallu', mewnosod 'yn llawn'.

Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 2, dileu 'Yn croesawu'r posibilrwydd o Fanc' a rhoi yn ei le 'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc'.

Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi'r camau y bydd yn eu cymryd i ddatblygu Banc Datblygu i Gymru sydd wedi'i gynllunio i:

a) cefnogi busnesau bach i gael mynediad at gyllid a chymorth;

b) datblygu cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys allforio a mewnfuddsoddi; ac

c) ariannu prosiectau seilwaith mawr, a fyddai hefyd yn egluro rôl Cyllid Cymru yn y dyfodol.

</AI6>

<AI7>

        Cyfnod pleidleisio 

</AI7>

<AI8>

        Dadl Fer (30 munud)

NDM5766 Keith Davies (Llanelli)

 

Ysgogi'r economi yng ngorllewin Cymru.

 

Defnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i hybu twf.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Mehefin 2015

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>